GWE-LYWIWR MOZILLA 1.7
Gosod Gwe-lywiwr Mozilla
1.7
Clciwch ar y cyswllt is-law i llwytho'r rhaglen gosod hwylus ar gyfer
Windows :Os nad yw llwytho Gwe-lywiwr Mozilla i lawr yn gyfleus i chi, yna mae ar gael hefyd ar CD Meddal (http://www.gwelywiwr.org/meddal) a Cysgliad (http://www.bangor.ac.uk/cysgliad)
Neu, os mae Mozilla 1.7 wedi ei osod yn barod ar eich cyfrifiadur, neu os ydych yn defnyddio Linux neu MacOS X yna ewch i'r dudalen llwytho pecyn iaith.
Diolch
Diolch yn fawr i'r
canlynol am gyfrannu eu hamser personol neu adnoddau i'r achos:
- Rhoslyn Prys - gwaith cyfieithu
- Dewi Bryn Jones - gwaith technegol
- David Chan - gwaith technegol Linux
- Dafydd Harries
- Nic Dafis (Maes-E)
- Canolfan Bedwyr
- WiSS (http:www.wisshost.com)
Bar Google Cymraeg
Mae'r bar Google Cymraeg yn rhoi wrth law gwasanaethau chwilio'r we Google yn y Gymraeg.Botwm Newid Iaith Rhyngwyneb Gwe-lywiwr Mozilla
Mae'r bar Google yn cynnwys botwm sydd yn newid iaith rhyngwyneb Gwe-lywiwr Mozilla rhwng Cymraeg a Saesneg :Mae rhyngwyneb Gwe-lywiwr Mozilla gallu ymddangos mewn nifer o ieithoedd eraill ar wahân i Saesneg a Chymraeg. Defnyddiwch y ffenestr ganlynol (o 'Golygu -> Dewisiadau' yn y brif ddewislen) i lwytho i lawr, gosod a dewis pecynnau ieith eraill
Cynnwys Rhagosodedig Cymraeg
Mae'r Gwe-lywiwr Mozilla yn cynnwys nodau tudalen (Bookmarks) i wefannau poblogaidd Cymraeg y we fel BBC Cymru'r Byd, Maes E a Cymru ar y We.Mae'r Bar Google yn ogystal yn cynnwys botwm chwilio gwefannau Cymraeg fel gwasanaeth newyddion Cymraeg BBC Cymru'r Byd :
Arfau Iaith - Geiriadur Cymraeg/Saesneg
Yn rhan o'r Bar Google Cymraeg mae geiriadur Cymraeg - Saesneg BBC
Learnwelsh. Ddatblygwyd y geiriadur yn wreiddiol gan Canolfan Bedwyr,
Prifysgol Cymru, Bangor. Mae'n nabod geiriau Cymraeg sydd wedi eu
lluosi, dreiglo a rhediadau berfau. (e.e. gath, gefais) :Mae gwefannau geiriaduron Saesneg fel dictionary.com a thesaurus.com hefyd yn rhan o Bar Google Cymraeg.
Arfau Iaith - Gwirydd Sillafu Cymraeg
Mae'r gwirydd sillafu sydd wedi ei ddatblygwyd gan Canolfan Bedwyr, Prifysgol Cymru, Bangor yn rhan o Gwe-lywiwr Mozilla. Ddatblygwyd y gwirydd sillafu ar gyfer OpenOffice.org a noddwyd yn rhannol gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.Mae'r gwirydd sillafu yn weithredol o fewn ffurflenni yn y porwr - defnyddiol iawn cyn gyrru e-byst o wasanaeth we-bost :
(yma fe ddewisir 'Gwirio Sillafu' ar ddewislen de-glicio er mwyn cychwyn y gwirydd i ymddangos)
Neu mae'r gwirydd sillafu ar gael yn raglen E-Bost Gwe-lywiwr Mozilla :
Calendr Cymraeg
Calendr gyda nid yn unig ryngwyneb Cymraeg :ond dyddiadau pwysig y Cymry a Chymru drwy danysgrifio i galendr pell Gymraeg Nic Dafis :
http://morfablog.com/ical/Gwyliau.ics
