Sut Mae Cael Gafael ar Netscape 7.1 Cymraeg
Cefndir
Mae'n hawdd iawn gosod Netscape 7.1 Cymraeg ar eich cyfrifiadur.
Mae Netscape 7.1 Cymraeg wedi ei ddarparu fel casgliad o ffeiliau
(pecyn iaith a chynnwys / language and contents pack) i'w fewnosod
yn eich gosodiad o Netscape 7.1 ar unrhyw fath o gyfrifiadur -
Windows, Macintosh, Linux ag ati
Mae holl rhyngwyneb Netscape 7.1 ar gael yn Gymraeg gan cynnwys :
-
Navigator
-
Messenger (rhaglen Ebost a
Grwpiau Newyddion)
-
Composer (rhaglen cyfansoddi
tudalennau we)
-
Address Book / Contacts
-
AOL Instant Messenger (rhaglen
boblogaidd Netscape/AOL ar gyfer sgwrsio gyda ffrindiau ar draws y
we.
Cael Netscape 7.1 Cymraeg
Gellwch lwytho fersiwn o Netscape 7.1 i lawr a'i osod ar eich cyfrifiadur
gan ddilyn y cyfarwyddiadau ar safle gwe Netscape.com
Gallwch wedyn newid rhagwyneb
Netscape 7.1 i gyd i'r Gymraeg drwy'r camau canlynol a rhai cliciau
ar eich llygoden :
cliciwch yma i ddechrau llwytho a mewnosod y pecyn iaith Cymraeg.
D.S.!! rhaid
i chi bod yn clicio ar y cyswllt uwchlaw o fewn Netscape 7.1.
-
Wedi i'r broses o lwytho i lawr a mewnosod awtomatig orffen,
caewch y rhaglen Netscape, h.y. File->Exit
-
Cychwynnwch Netscape
eto. Mae'r porwr yn dal i'w weld yn Saesneg ond fe welwch fod dewis gennych
nawr i'w newid i'r Gymraeg, drwy :
Edit->Preferences->Appearance->Languages/Content->Installed
Language Packs
a chlicio ar Cymraeg ac yna y botwm Ok.
Os ydych yn cael anhawster gyda'r
broses o osod Netscape 7.1 Cymraeg yna gyrrwch e-bost at
DewiJones@gwelywiwr.org
|